Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar

Blant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu

13 Mai 2014

 

 

Dyddiad:        13/05/2014

Lleoliad:         Ystafell Gynadledda 21 - Tŷ Hywel

 

Aelodau a oedd yn bresennol: 

Christine Chapman AC (Cadeirydd)                          Aled Roberts AC        

Jocelyn Davies AC                                                     Suzy Davies AC

 

Cynrychiolwyr a oedd yn bresennol:

Caroline Ryan (YMCA Caerdydd )                 Charlie Cable (SOVA)

Corin Morgan-Armstrong (Carchar Parc)       Emma Reed  (Barnardo's Cymru)

Emma Wools (Gwasanaeth Prawf)                Elaine Speyer  (Cofnodion)

Gareth Williams (YMCA Caerdydd)                Gemma Jones (Cymorth i Fenywod)

Ingrid Zammit (NOMS)                                    Jack Stanley (Swyddfa Peter Hain)

Jessica Joyce (Prifysgol Caerdydd )                          Joanne Mulcahy (PACT)

Julie Morgan (Aelod Cynulliad)                      Justine Jenkins (Ymddiriedolaeth St Giles)

Laura Tranter (Barnardo's Cymru)                  Lindsey Pudge  (Barnardo's Cymru)

Lyndon Samuel (Heddlu Gwent)                     Neera Sharma  (Barnardo's)

Robert Jones (Canolfan Llywodraethiant Cymru)      Robin Lewis (Staff Cymorth AC)

Sam Clutton (Barnardo's Cymru)                    Sian Mile (Staff Cymorth AC)

Sian Thomas (Gwasanaeth Ymchwil CCC)  Tim Ruscoe  (Barnardo's Cymru)    

Trish Woodhouse (PACT)                               Yvonne Rodgers (Barnardo's Cymru)

                                               

Ymddiheuriadau:     

Cathie Brannigan (Sefydliad Waterloo)                       Eve Willmott (Prifysgol Caerdydd)

John Tossell (Carchar Abertawe)                                Tony Kirk (Llywodraeth Cymru)

Zoe Lancelott ( Rhondda Cynon Taf)

 

 

1.        Cyflwyniad a Chroeso

 

Croesawodd Christine Chapman AC bawb i'r grŵp cyntaf a nodi pwysigrwydd gweithredu ar gyfer plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu. Dywedodd Christine Chapman bod ei dadl fer ar y mater yn ddiweddar wedi cael ymateb cadarnhaol gan Aelodau Cynulliad eraill a chan y Dirprwy Weinidog ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Cafodd Christine Chapman ei henwebu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol gan Suzy Davies AC.

 

Barnardo's Cymru fydd ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol.

 

 

 

 

 

 

2.        Cyflwyniadau

 

Bydd y cyflwyniadau PowerPoint yn y cyfarfod yn cael eu dosbarthu i bawb a oedd yn y cyfarfod cyntaf, ac maent ar gael ar gais gan elaine.speyer@barnardos.org.uk

 

Dangoswyd tair ffilm yn y cyfarfod cyntaf. Roedd un yn dangos gwaith y Prosiect Invisible Walls, un o'r enw 'Reversible Writing' ac un yn dangos astudiaeth achos o brosiect CSOF Barnardo's Cymru. 

 

 

Corin Morgan-Armstrong, Pennaeth Ymyriadau Teulu ac IWW, Carchar Parc

 

Cafwyd cyflwyniad gan Corin Morgan-Armstrong ar y gwaith arloesol sy'n digwydd mewn perthynas ag ymyriadau teuluol a chefnogaeth yn y gymuned ar gyfer carcharorion a'u teuluoedd gan Garchar Parc a'i sefydliadau partner. Roedd ei gyflwyniad yn cynnwys ystadegau ar gyfraddau ail-droseddu ac yn amcangyfrif nifer y plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu ac effaith hynny o ran canlyniadau gwael. Roedd ganddo ffigur anecdotaidd bod hyd at 2,000 o blant yn ymweld â charcharorion yn Parc bob mis. Rhoddodd Corin rai enghreifftiau o effaith y gwaith sy'n helpu carcharorion i ddeall sut mae eu hymddygiad troseddol yn effeithio ar eu teuluoedd ac yn arbennig eu plant. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Parc wedi amlygu bod diffyg cefnogaeth yn cael ei gynnig i blant a'u teuluoedd, hyd yn oed pan fydd gan y teulu anghenion cymhleth. Mae'r gwaith ymyrraeth deuluol yn Parc ac yn y gymuned drwy'r prosiect Invisible Walles yn ceisio cefnogi'r teulu cyfan (gan gynnwys y tad yn y carchar) er mwyn gostwng aildroseddu a throseddu gan y cenedlaethau eraill yn y dyfodol.

 

Soniodd Corin hefyd am y gwaith gydag ysgolion drwy'r Invisible Walls Accord sydd â chefnogaeth nifer o sefydliadau ac sy'n bwriadu cynyddu sut y gellir adnabod ac atgyfeirio cefnogaeth briodol ar gyfer plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu. Mae Carchar Parc hefyd wedi bod yn gwneud gwaith uniongyrchol ar addysg, gan ddod ag athrawon a rhieni at ei gilydd mewn nosweithiau rhieni ac athrawon yn y carchar neu ar Skype, a hefyd drwy ddarparu sesiynau iaith a chwarae a rhifedd a chwarae i deuluoedd yn y carchar. 

 

Jo Mulcahy, PACT Cymru, Rheolwr Prosiect

 

Esboniodd Jo Mulcahy waith yr elusen genedlaethol PACT, sef cefnogi troseddwyr a'u teuluoedd i leihau'r niwed y gall carcharu ei achosi i droseddwyr, i deuluoedd ac i gymunedau. Soniodd Jo am sut mae cael rhiant yn y carchar yn effeithio ar blentyn. Rhoddodd enghreifftiau o'r ffyrdd y mae'r plant sy'n cael cefnogaeth gan PACT wedi mynegi eu dryswch am yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw a'u teuluoedd. Dywedodd Jo eu bod yn aml yn profi gwasanaethau yn atal ymgysylltu gyda theulu unwaith y mae rhiant wedi mynd i'r carchar. Mae PACT yn dadlau nad oes unrhyw reswm y dylid atal ymyrraeth pan fydd hynny'n digwydd. Nododd bod diffyg systemau i ganfod a yw person yn rhiant pan fyddant yn y ddalfa neu'n cael eu dedfrydu. Golyga hynny nad yw anghenion plant yn cael eu canfod ac nad oes cefnogaeth rhianta yn cael ei roi i'r carcharor. Dywedodd Jo bod llawer o rieni yn ansicr ynghylch pwy i ymddiried ynddynt a phwy i ofyn am gymorth ganddynt. Yn aml, maent yn teimlo nad yw gwasanaethau yn eu cefnogi.

 

 

Mae PACT yn cynnal prosiectau sy'n rhoi cymorth i dadau yn y carchar a'u teuluoedd yng Ngharchar Abertawe, Caerdydd a Prescoed. Mae'r gwaith yn cefnogi teuluoedd drwy esbonio beth sy'n digwydd i'w plant ac mae'n esbonio'r amgylchiadau teuluol i ysgol y plentyn. Mae PACT yn cefnogi diwrnodau ymweliad gan y teulu a chyswllt sy'n gallu gwella'r berthynas rhwng tad a'i blant. Mae grwpiau babanod yn cael eu cynnal ar gyfer tadau a'u partneriaid yn y carchar i helpu'r cyswllt rhwng tad absennol a'i fabi, gan gynnwys y tadau hynny y cafodd eu plant eu geni ar ôl iddynt fynd i'r carchar. Mae PACT hefyd yn cynnal y prosiect 'Cefnogi Rhieni Ifanc sydd yn y Carchar' sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr ac sy'n darparu ymyriadau pwrpasol i rieni ifanc rhwng 18 a 25 oed ledled ystâd carchardai cyhoeddus Cymru.

 

Soniodd Jo hefyd am y Rhwydwaith Ymarferwyr Cymru a sefydlodd sydd bellach yn cynnwys tua 300 o bobl ac sy'n cefnogi rhannu arfer da.

 

 

Laura Tranter, Rheolwr Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau CAPI, Barnardo's Cymru

 

Rhoddodd Laura gefndir i'r gwaith codi ymwybyddiaeth a datblygu a wnaed gan y rhai sy'n rhoi cyflwyniadau yn y cyfarfod ac eraill dros y chwe blynedd diwethaf. Mae Llwybr Plant a Theuluoedd NOMS (Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr) wedi argymell bod angen newid i'r agenda hwn drwy gydol y cyfnod hwnnw. Mae Laura bellach yn cadeirio'r grŵp hwnnw. Mae Barnardo's wedi nodi CAPI (Plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu) yn flaenoriaeth i'r sefydliad fel rhan o'i waith i gefnogi'r plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed ac fe fuddsoddwyd mewn cronfeydd gwirfoddol i barhau â'r gwaith cymunedol yng Nghymru am ddwy flynedd arall.

 

Nododd Laura y gwasanaethau presennol sy'n cael eu cynnal yng Nghymru gan Barnardo's Cymru. Mae hynny'n cynnwys bod yn bartner cymunedol i'r prosiect Invisible Walls yng Ngharchar Parc. Mae'r prosiect yn ceisio integreiddio'r cymorth a'r ymyriadau a gynigir i ddynion penodol yn y ddalfa o ran cymorth, triniaeth a chyngor i'r teulu cyfan. Mae'r prosiect Cymorth Cymunedol ar gyfer Troseddwyr (CSOF) yn gweithredu ar draws naw awdurdod lleol yn Ne Cymru ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth a datblygu model cymorth cymunedol cadarn i blant a theuluoedd troseddwyr. Mae anghenion cymhleth gan y rhan fwyaf o'r teuluoedd y mae'r gwasanaeth yn gweithio â hwy. Mae gan y prosiect reolwr troseddwyr ar secondiad sy'n codi ymwybyddiaeth trwy gyfarfodydd, sesiynau briffio a chyswllt parhaus gyda thimau prawf, ynghyd â darparu hyfforddiant Dedfryd Gudd mewn lleoliadau prawf ac aml-asiantaeth. Soniodd Laura hefyd am y ganolfan ymweliadau bwrpasol arfaethedig yng Ngharchar Parc. Bydd staff Barnardo's Cymru yn gweithio yn y ganolfan, y cyntaf o'i math yn y DU lle gall teuluoedd gael mynediad at ystod o ymyriadau cyn ymweliad ac ar ôl ymweliad.

 

Cyflwynodd Laura y llawlyfr i ysgolion a fydd yn cael ei lansio ar ddiwedd mis Mai, sy'n cynnwys rhestr wirio a chyngor ymarferol i ysgolion. Nod yr adnodd yw cefnogi ysgolion i ganfod, deall ac ymateb i anghenion plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu.  Nodwyd Rhondda Cynon Taf fel ardal flaenllaw sydd wedi rhoi copïau o'r adnodd i'w holl ysgolion ac sydd wedi cynnwys plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu yn ei strategaeth lles addysg. 

 

 

 

 

 

 

 

 

3.    Cwestiynau

 

Gofynnodd y Cadeirydd i bawb ystyried cynnwys blaengynllun gwaith y Grŵp Trawsbleidiol a'u gwahodd i holi'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth yn y cyfarfod cyntaf.

 

Gofynnodd Jocelyn Davies AC a oedd yr ystadegau bod 72% o droseddwyr yn dychwelyd i'r carchar o fewn 12 neu 24 mis ar gyfer pob carcharor. Atebodd Corin Morgan-Armstrong ei fod ar gyfer y rhai sy'n cael eu rhyddhau o ddedfryd o garchar, ac nid ar gyfer y rhai ar remand, y rhai sydd wedi apelio'n llwyddiannus, neu os gafodd y cyhuddiadau yn eu herbyn eu gollwng.

 

Gofynnodd Robert Jones (Canolfan Llywodraethiant Cymru) beth oedd y cwmpas ar gyfer plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu sy'n byw yng Ngogledd Cymru am fod troseddwyr o'r ardal honno'n bennaf yn cael eu dedfrydu mewn carchar ar draws y ffin. Atebodd Laura Tranter fod Barnardo's yn hyfforddi staff ledled Cymru. Maent yn ymwybodol o'r problemau yng Ngogledd Cymru a hefyd gyda phlant troseddwyr benywaidd sydd wedi'u dedfrydu yn Lloegr. Trafododd Corin Morgan-Armstrong oblygiadau'r carchar arfaethedig yn Wrecsam. Ychwanegodd, os ydynt yn byw yng Ngogledd Cymru ai peidio, bod angen trin pob plentyn yn deg ac yn gyfartal a datrys eu problemau.  Nod yr Invisible Walls Accordyw cynnwys pob ysgol yng Nghymru.

 

Dywedodd Aled Roberts AC y gallai'r carchar mwyaf yn y DU fod wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru o fewn dwy flynedd a hanner. Mynegodd ei bryderon bod y sgwrs rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gaffael mewn perthynas ag adeiladu'r carchar yn hytrach na thrafod dulliau megis systemau cymorth. Trafodwyd bod angen i'r dull datganoledig fod yn wahanol. Atebodd Ingrid Zammit (NOMS) y cwestiwn hwn ar ran NOMS gan ddweud eu bod yn y cyfnod datblygu ar gyfer y carchar yn Wrecsam, ond y byddai'r pryderon a gododd Aled Roberts yn cael sylw wrth i bethau ddatblygu.

 

Gofynnwyd a oedd gan Parc brofiad o weithio gyda theuluoedd sy'n bellach i ffwrdd, am y byddai Wrecsam yn cadw carcharorion o ymhellach i ffwrdd, sy'n golygu y byddai'n dal i fod teuluoedd sy'n bell oddi wrth eu tad. Rhoddodd Corin Morgan-Armstrong enghreifftiau o garcharorion yn Parc sydd wedi defnyddio Skype i gysylltu â'u plant ledled y byd. Y cyswllt hwnnw ar Skype oedd y tro cyntaf i rai carcharorion siarad â'u teuluoedd mewn blynyddoedd. Dywedodd Corin nad yw Skype yn ddelfrydol, ond mae'n cael effaith enfawr ar ymddygiad troseddwyr ac ar les eu plant. Ychwanegodd Corin mai Parc yw'r unig garchar sy'n gwneud hyn ar hyn o bryd, ond fe ellir lledaenu'r arfer hwnnw drwy Gymru a'r DU. Ychwanegodd aelodau'r panel nad oedd cyswllt teuluol yn ymwneud â chyswllt corfforol yn unig, ond hefyd ysgrifennu, galwadau ffôn, cardiau pen-blwydd ac ati. Mae cyswllt â'r ysgol hefyd yn bwysig, ee gellir cynnal cyfarfodydd athrawon a rhieni drwy Skype, sy'n cael effaith enfawr.

 

Cafwyd trafodaeth ar faterion yn ymwneud â charcharorion benywaidd, gan gynnwys effaith bosibl adran menywod y carchar newydd yng Ngogledd Cymru. Dadleuwyd efallai na fyddai adran menywod yn y carchar hwnnw, ond awgrymwyd bod menywod wedi'u lledu ledled y DU. Trafodwyd yr anawsterau gyda chadw mewn cysylltiad a chefnogaeth adeg ailsefydlu.

 

Dywedodd Jack Stanley (Swyddfa Peter Hain) fod Parc yn swnio'n flaengar. Gofynnodd sut mae Parc yn rheoli'r cyfnod ailsefydlu ac a yw'r grant rhyddhau yn ddigonol. Disgrifiodd Corin Morgan-Armstrong waith Parc. Mae'n dechrau cyn i'r troseddwr ddod i'r ddalfa, pan gaiff ei arestio. Mae celloedd gorsafoedd heddlu yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd adeg proses y llysoedd. Mae angen dechrau'r gwaith hynny cyn i'r ddedfryd o garchar ddechrau. Gofynnwyd ai Parc yn unig sy'n cynnig hynny. Dywedodd Corin nad ydynt yn unigryw. Ychwanegwyd bod cyfle gwych yng Nghymru am fod enw da o ran gwneud y gwaith hwnnw. Mae adran datblygu busnes NOMS ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd i drefnu ymweliadau teuluol tebyg mewn carchardai eraill ledled y DU. Dywedodd Corin, o fewn y 72 awr gyntaf i garcharor gyrraedd y ddalfa, bod proses gynefino lawn yn dechrau gyda'r teulu. Awgrymodd Corin nad yw hynny'n ddigon a bod angen edrych ar y darlun ehangach a darparu mwy o gefnogaeth.

 

Ychwanegodd Emma Wools (Gwasanaeth Prawf) bod ailstrwythuro NOMS wedi amlygu pocedi o arfer da a bod mwy o gyfleoedd i'w ledaenu.  Cafodd Strategaeth Lleihau Aildroseddu Cymru ei lansio yn ddiweddar ac mae'n gyfle da i amlygu materion teuluol, yn enwedig o fewn y model IOM (Rheoli Troseddwyr Integredig). 

 

Atebodd Corin gwestiwn Yvonne Rodgers (Barnardo's Cymru) ar yr Invisible Walls Accord gan roi mwy o fanylion am y fenter.

 

Cafwyd trafodaeth a chydnabyddiaeth bod carcharorion oedrannus yn cynrychioli'r boblogaeth mewn carchardai sy'n tyfu'n fwyaf cyflym a'r effaith ddilynol ar berthnasau teuluol, gan gydnabod bod teidiau a neiniau weithiau'n brif ofalwyr.

 

 

4.    Blaengynllun Gwaith

 

Cafodd Aelodau'r Cynulliad eu galw i fusnes y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Adlewyrchodd Tim Ruscoe (Barnardo's Cymru) ar y cyfarfod cyntaf a diolchodd i'r cyflwynwyr a'r rhai a oedd yn bresennol am gefnogi'r mater pwysig hwn. Nododd Tim Ruscoe y blaengynllun ar gyfer y grŵp ac eglurodd y byddai gwaith ymchwil yn cefnogi gwaith y grŵp. Anogwyd y rhai a oedd yn bresennol i sôn am unrhyw faterion neu arbenigedd er mwyn hysbysu a chefnogi gwaith y Grŵp Trawsbleidiol. Ymrwymodd Tim Ruscoe i sicrhau bod cyfathrebu da am waith y grŵp.